Dyddiad: trwy fis Tachwedd
Cyfnod Allweddol: 2-3
Hyd: 15-30 munud. Bydd y gweithgaredd traws-gwricwlaidd yn ddelfrydol ar gyfer amser cofrestru / tiwtoriaidd
Oes gennoch chi gwestiwn rydych chi wedi bod yn aros i ‘w ofyn am hir? Pa mor fawr yw’r blaned Iau? Beth ddigwyddodd i’r dinosoriaid? All brogaod bwyta siocled? Wel, hoffen ni helpu i ateb y cwestiynau hyn. Mae’n hymchwilwyr o fri wrth law i’w hateb ar eich cyfer. Cliciwch yma am gyfarwyddiadau.
Sut i gymryd rhan
Dadlwytho’r poster A4 isod a’i brintio ar gyfer eich myfyrwyr
Myfyrwyr – meddyliwch am gwestiwn a’i ysgrifennu ym mlwch y poster. Addurnwch y poster!
Athrawon – tynnwch lun o’r poster – neu eich hoff rai a’u postio ar Twitter ADIFF: Adiff_Cymru
Bydd ein hymchwilwyr annwyl yn ateb eich cwestiynau ar Twitter!