
Dyddiad: 27 Tachwedd
Amser: 7.15-8.15pm
Cynulleidfa: Oedolion / Plant 16+.
Doedd 2020 ddim beth roedden ni gyd yn disgwyl. Mae Covid wedi cael effaith ar bron i bawb ar y blaned mewn un ffordd neu’i gilydd. Dyma’ch cyfle chi i gael atebion i’ch cwestiynau i gyd gan banel o rai o ymchwilwyr a gwyddonwyr arbenigol gorau yn y byd.
Pa mor agos ydyn ni i frechlyn? Ydy cyfnodau clo lleol yn gweithio? Beth am y mwtaniad minc – oes berygl yn hynny? Beth ydyn ni’n gwybod am y risg uwch i bobl BAME? Beth am Covid-hir? Mae ymchwilwyr ar draws Cymru yn gweithio ar ystod o heriau Covid-19.
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn holi ac ateb bywiog yng nghwmni rhai yn flaengar yn yr ymchwil, yn ein helpu ni trwy’r pandemig
Cynhelir y digwyddiad fel seminar Zoom a chewch fanylion ar sut i ymuno wrth i chi gofrestru.
Ein panel:
Dr Richard Stanton (Chair)
Darllenydd mewn Grŵp imiwnoleg Feiral
Dr Catherine Moore
Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol mewn Firoleg
Dr Carlotta Olivero
Sut mae profion Covid gwahanol yn gweithio?
Dr Ian Frayling
Covid hir – Golwg personol ac arbenigol
Dr Hamsaraj Shetty
BAME a Covid – beth ydyn ni’n gwybod?
Dr. Awen Gallimore
Brechlynnau – sut maen nhw’n gweithio a beth sy’n digwydd nesaf?